Department of Research & Innovation

Croeso gan y Cyfarwyddwr

Croeso i rifyn diweddaraf ein cylchlythyr.  Mae tîm REIS wedi bod trwy gyfnod o newid gweithredol sylweddol yn ddiweddar, gyda'r Hybiau Coleg sydd newydd eu sefydlu bellach yn darparu ystod lawn o wasanaethau proffesiynol ar y ddau gampws. 

Ar ddechrau mis Ebrill, symudodd tîm REIS o lawr 7 Tŵr Faraday i ail lawr Adeilad Talbot.  Mae hyn yn gyfle i gydleoli Datblygu Ymchwil, Gwasanaethau Prosiect, Gwasanaethau Masnachol (gan gynnwys Swansea Innovations ac Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru) a'r Sefydliad Arweinyddiaeth Entrepreneuraidd (gan gynnwys ION Leadership) mewn man canolog. Rhagor o wybodaeth

Click here to read the full story

Cyllid

Aelodaeth o'r UE: Hwb i'r Ymgyrch

Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn The Sunday Times yn ddiweddar, ymunodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe â phenaethiaid 103 o brifysgolion eraill y DU wrth 'annog cyhoedd Prydain i ystyried rôl allweddol yr UE wrth gefnogi ein prifysgolion sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang'; aeth y llythyr ymlaen i ddweud bod ein haelodaeth yn cefnogi safle'r DU fel arweinydd byd-eang mewn gwyddoniaeth, y celfyddydau ac arloesi.

Felly, pam y mae arweinwyr rhai o sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw'r byd yn siarad o blaid y Deyrnas Unedig yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd?  Beth yn union y mae'r UE wedi'i wneud yn uniongyrchol dros Brifysgol Abertawe? A sut mae hyn wedi llunio'r dirwedd academaidd ac economaidd yma yng Nghymru?  Ble bydden ni heb yr UE, a pha fath o gymdeithas fyddai gennym yng Nghymru fel rhan o wladwriaeth y tu allan i'r UE? 

Adroddiad yn tynnu sylw at ymdrech ragorol gan y gymuned ymchwil

Mae'r siart dafellog yn dangos gwerth y cynigion a gyflwynwyd a'r dyfarniadau a dderbyniwyd gan grwpiau noddi o bwys rhwng 1 Awst 2015 a 29 Chwefror 2016. 

Mae gwerth y dyfarniadau a dderbyniwyd hyd yn hyn yn ystod y cyfnod hwn yn galonogol iawn, sef £27m, sydd eisoes £13m yn fwy na'r perfformiad yn yr un cyfnod y llynedd. Mae'r gwerth uchaf yn dod o Ewrop, sef cyllid gwerth £9.8m, sy'n cynrychioli 36% o'r cyfanswm a chyfrannwyd £5.8m gan Gynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig, sef 21% o'r cyfanswm. 

Click here to read the full story

Click here to read the full story

Yr Athro Siwan Davies

Yr Athro Siwan Davies yn siarad am 'Lwyddiant Grant gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd

Newyddion

Athro Entrepreneuriaeth Prifysgol Abertawe'n derbyn y Wobr Ewropeaidd Uchaf

Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae Canolfan Entrepreneuriaeth Sten K. Johnson ym Mhrifysgol Lund yn Sweden, sy'n adnabyddus ledled y byd, wedi cyhoeddi ei Gwobr Addysg Entrepreneuriaeth Ewropeaidd bwysig.

Eleni, dyfarnwyd y Wobr, sy'n cydnabod unigolyn neu sefydliad sydd wedi cyfrannu at wella addysg entrepreneuriaeth yn Ewrop, i'r Athro Paul Hannon o Brifysgol Abertawe, y Deyrnas Unedig.

Click here to read the full story

Effaith

Pecyn Cymorth Llwybrau i Effaith

Ar gyfer yr holl mae angen i chi ei wybod am lwybrau i gael effaith , os gwelwch yn dda cliciwch yma i lawrlwytho'r pecyn cymorth

Cwrdd â'r Swyddogion Effaith ac Ymgysylltu

Mae'r Swyddogion Effaith ac Ymgysylltu (sy'n gweithio yn yr Hybiau Ymchwil) yno i'ch helpu. Mae gan aelodau'r tîm wybodaeth a phrofiad helaeth o gydweithio â rhanddeiliaid allanol a gallant helpu i gryfhau a chefnogi'ch rhyngweithio â phartneriaid allanol, o'r sector cyhoeddus, cyrff diwydiannol a'r llywodraeth, gan adeiladu partneriaethau strategol sy'n eich helpu i ddatblygu ymchwil a fydd yn cyflawni effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol. 

Cysylltwch â'ch hyb lleol am ragor o wybodaeth  

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF)

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil oedd yr ymarfer cyntaf i asesu effaith ymchwil y tu allan i'r byd academaidd. Diffiniwyd effaith fel 'effaith, newid neu fudd ar gyfer yr economi, cymdeithas, diwylliant, polisi neu wasanaethau cyhoeddus, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd y tu hwnt i'r byd academaidd.' Mae offeryn map rhyngweithiol newydd, sy'n dangos cyrhaeddiad cenedlaethol a rhyngwladol astudiaethau achos REF2014 wedi'i greu. I ddarllen mwy, ewch i 

 

Click here for full story

 

Oes angen help arnoch i ymgysylltu â'r Cyhoedd?

Mae aelodau Fforwm Ymgysylltu â’r Cyhoedd Prifysgol Abertawe-PEP Talk yma i'ch helpu. Gydag amrywiaeth eang o brofiad ym maes ymgysylltu â'r cyhoedd, gall y tîm roi syniadau a mewnbwn i chi o amrywiaeth eang o  ddisgyblaethau a sectorau, gan gynnwys ymgysylltu'r sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector ac alinio ymgysylltu â'r cyhoedd ag effaith ymchwil.

Mae PEP Talk wedi cefnogi FameLab, Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Being Human a Gŵyl Wyddoniaeth Prydain sydd yn yr arfaeth.

Cyfrif Cyflymu Effaith (Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol) - Cronfa Effaith Ymchwil

Dyrannwyd cyllid gwerth £60,000 i gefnogi secondiadau, syniadau cam peilot a mentrau datblygedig ym meysydd iechyd, ynni, gweithgynhyrchu, cyfrifiadureg, datblygu technegol a meysydd pwnc STEM cysylltiedig. Dyddiad cau'r alwad oedd 8 Ionawr a derbyniwyd 54 cais o bob rhan o'r brifysgol.

Gan gydweithio â chronfa SURGE, buom yn cefnogi 30 prosiect effaith uchel ar draws y Brifysgol. Gallwch weld y rhestr lawn yn 

Click here to read the full story

 

Astudiaeth Achos

Haydale Graphene yn caffael technoleg Prifysgol Abertawe

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Haydale Graphene Industries plc, sy'n canolbwyntio ar dechnoleg alluogi er mwyn masnacheiddio graffen a nano-ddeunyddiau eraill, ei fod yn arfer ei hawliau dan ei gytundeb piblinell presennol gyda Phrifysgol Abertawe a Swansea Innovation Limited (gyda'i gilydd, 'Abertawe') i gaffael dyfais newydd (y 'ddyfais newydd').  

Click here to read the full story

REIS Rhaglen Seminarau

REIS yn cynnal ystod o seminarau amserol, yn berthnasol ac yn addysgiadol i gefnogi staff ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe.  Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau cyhoeddusrwydd , ac i roi adborth ar seminarau ychwanegol a fyddai o werth i chi , ffoniwch 01792 606060 neu e-bostiwch: reis@swansea.ac.uk

I weld y rhaglen lawn , cliciwch yma

Gwybodaeth Bellach

I roi adborth ar y cylchlythyr ac i drafod sut y gallwn gefnogi eich gweithgareddau , ewch i'n gwefan neucysylltwch â ni ar 01792 606060.

© Copyright 2016. All rights reserved.

Tel: 01792 606060
Email: reis@swansea.ac.uk

Twitter

Follow us on Twitter

  ESF   ERDF

Unfortunately, as this email has been sent out via the all-staff forwarder, we have have no control over the individual addresses supplied. However, if you wish us to record your unsubscribe request for the future, please email us.